Tuesday 30 June 2009

Hyfforddiant Rhodri 25th Mehefin

Yn gynnar yn y flwyddyn dechreuodd Rhodri Dafydd ei hyfforddiant fel modrwywr Tylluanod. Mae Rhodri wedi bod yn edrych ar sawl safle nythu tylluanod gwyn ers rhai blynyddoedd, ond gan nad yw yn fodrwywr, roedd yn rhaid i ni fynd yn ôl i osod y modrwyau ar y cywion. Roedd yn syniad digon call felly i hyfforddi Rhodri i wneud y gwaith ei hun.

Mae’r Dylluan Frech wedi cael tymor nythu digon gwael am fod yna brinder o lygod, ac roeddem yn poeni y bysai’r dylluan wen yn cael yr un broblem. Yn y bwlch cyntaf yr aethom i’w weld roedd pedwar o gywion mawr cryf, a phwysau da ar y pedwar. Mae’r hynaf tua 6 wythnos o oed a byddant yn y bwlch am o leiaf mis arall.


Yn ein blaen i safle arall a newyddion drwg, y dylluan sydd wedi bod yn nythu yma ers rhai blynyddoedd ar goll - ond nythaid fawr o gudyll coch mawr yn ein disgwyl. Mae'r cudyll coch yn aderyn sydd yn dioddef ar y funud hefo’i niferoedd yn mynd i lawr ar hyd a lled Cymru, heblaw ar ochor yr A55 yn sir Fôn lle maent i’w gweld yn gyson. Pan maent y maint yma mae'r cywion yn tueddu i orwedd ar eu cefnau, a rhuthro hefo’r gwinadd miniog am ryw beth ddoith yn ddigon agos. Gwaed cyntaf i’r cudyll, a Rhodri wedi dechrau i hyfforddiant. Mae’r wen yn dweud y stori i gyd!

No comments:

Post a Comment