Tuesday 30 June 2009

Hyfforddiant Rhodri 25th Mehefin

Yn gynnar yn y flwyddyn dechreuodd Rhodri Dafydd ei hyfforddiant fel modrwywr Tylluanod. Mae Rhodri wedi bod yn edrych ar sawl safle nythu tylluanod gwyn ers rhai blynyddoedd, ond gan nad yw yn fodrwywr, roedd yn rhaid i ni fynd yn ôl i osod y modrwyau ar y cywion. Roedd yn syniad digon call felly i hyfforddi Rhodri i wneud y gwaith ei hun.

Mae’r Dylluan Frech wedi cael tymor nythu digon gwael am fod yna brinder o lygod, ac roeddem yn poeni y bysai’r dylluan wen yn cael yr un broblem. Yn y bwlch cyntaf yr aethom i’w weld roedd pedwar o gywion mawr cryf, a phwysau da ar y pedwar. Mae’r hynaf tua 6 wythnos o oed a byddant yn y bwlch am o leiaf mis arall.


Yn ein blaen i safle arall a newyddion drwg, y dylluan sydd wedi bod yn nythu yma ers rhai blynyddoedd ar goll - ond nythaid fawr o gudyll coch mawr yn ein disgwyl. Mae'r cudyll coch yn aderyn sydd yn dioddef ar y funud hefo’i niferoedd yn mynd i lawr ar hyd a lled Cymru, heblaw ar ochor yr A55 yn sir Fôn lle maent i’w gweld yn gyson. Pan maent y maint yma mae'r cywion yn tueddu i orwedd ar eu cefnau, a rhuthro hefo’r gwinadd miniog am ryw beth ddoith yn ddigon agos. Gwaed cyntaf i’r cudyll, a Rhodri wedi dechrau i hyfforddiant. Mae’r wen yn dweud y stori i gyd!

Gweilch y pysgod 18fed Mehefin

Unwaith eto daeth y dydd lle mae llygad cymaint yn edrych ar beth sydd yn mynd ymlaen. Y bumed flwyddyn i’r gweilch nythu yn llwyddiannus yn nyffryn y Glaslyn. Yn 2005 mi roedd cymaint o bwysau ar y tîm modrwyo gan bawb ai gi oedd yn rhoi cais i ddod hefo’r tîm modrwyo, cafodd penderfyniad i wneud i bechu pawb wrth ddweud na! Dim ond y tîm modrwyo a rheolwyr y prosiect oedd yn cael dŵad i weld y modrwyo. Dros y dair blynedd ddwythaf mae’r pwysau wedi codi, ac fel ffordd o ddiolch i’r gwirfoddolwyr cafodd dau ohonynt gyfle i ddod i weld y modrwyo - un gwirfoddolwr o’r man cyhoeddus, ac un o’r man amddiffyn. Mi oedd y ddau wedi rhoi llawer mwy o oriau i mewn na neb arall, ac felly doedd hi ond yn deg mai nhw oedd yn cael dwad. Yn y dyfodol os bydd yn gystadleuaeth agos yna mi fydd rhaid i'r enwau fynd i mewn i het.
Unwaith eto tri o gywion mawr cryf. Modrwyau “Darvic” gwyn hefo llythrennau du YF, 90, a 91. Mae'r pwysau a’r mesuriadau wedi eu gyrru i Roy Dennis yr arbenigwr yn yr Alban ac mae yn meddwl mai ieir fydd YF a 90, a cheiliog fydd 91

Monday 22 June 2009

Coch a Gwyn Sadwrn 13eg Fehefin

Llwyddiant mawr ym myd cadwraeth yw dod ar Barcud yn ôl o’r ffeil difodiant ym Mhrydain. O un iâr ffrwythlon yn y tri degau, mae erbyn heddiw dros 800 a pharau yng Nghymru. Mae wedi mynd yn aderyn digon cyffredin yn y canolbarth ond yn araf meant yn dod i fynnu i’r gogledd. Heddiw ddaeth Tony Cross o’r Yddiriadolaeth y Barcud yng Nghymru i ddringo coed i mi. Y cyntaf yn ogledd Meirionydd ac wedyn yn uwch i’r par fwy gogleddol sydd yn cael i fodrwyo. Erbyn heddiw mae yn bosib fod adar wedi pasio'r rhain ar ei ffordd i chwilio am diriogaeth yn y gogledd.


Dyma nhw yn y nyth cyn cael ei modrwyo, a’i “tagio” ar ei adenydd. Mae’r taggio yn gadel i wylwyr adnabod unigolion yn y boblogaeth. Cyn y taggio dim ond drwy ddarllen y wybodaeth ar y fodrwy oedd hi’n bosib adnabod yr aderyn ac roedd hynny dim ond yn digwydd pryd oedd yr aderyn yn cael damwain. Mae'r tagia yn cael i drin fel pluan arall gan yr adar.

Wrth fanteisio ar arbenigaeth Tony o ddringo coed mi aethom yn ein blaen i gytref o Grëyr Bach Gwyn. Mae’r Crëyr Bach wedi lledu dros Gymru yn y blynyddoedd diwethaf ac roeddent yn gwybod fod sawl nyth yn y gytref yma. Cafodd Tony tipyn o fraw pan aeth i fynnu’r goeden gyntaf, roedd o leiaf 5 nyth yn honno a beth bynnag 40 o nythod i weld o ben y goeden. Ar y llawr nid oedd mwy na 10 o’r nythod i’w gweld. Cafwyd 25 o gywion ei
modrwyo hefo fodrwy fetel BTO a hefo dwy fodrwy blastig sydd yn hawdd darllen yn y maes. Os cawn wybodaeth gan adarwyr fydd yn gweld y cywion yma cawn wybod pa mor bell meant yn gwasgaru o’r nythod. Mi ddysgwn tipyn bach mwy am o ble mae'r diferion mawr sydd i’w gweld ar rhai o’n mhorthladdoedd ni yn yr hydref.

Ynys Seiriol 11 Mehefin

Cefais gyfle i fynd i fodrwyo adar môr ar Ynys Seiriol. Y bwriad oedd modrwyo cywion ac oedolion Mulfrain Gwyrdd, cywion ac oedolion Llurs, a rhywbeth arall addas fysai yn dod i law. Wel 150 o Fulfrain Gwyrdd wedyn ac mae fy nwylo yn doriadau lle mae pig y Fulfran Werdd wedi dangos mor finiog ydyw.


Ond y gwaethaf oedd y Llurs, mae cymaint o nerth yn y pig mae angen rhoi'r pen o dan gesail i osgoi brathiad. Yn anffodus mae hyn yn rhoi cyfle da i’r Llurs frathu cesail, ac mae gennyf sawl “love bite” ar gefn fy mreichiau a dan fy nghesail.


Mae Ynys Seiriol yn enwog am y Pal. Mae’r Pal wedi bod yn ddiarth i’r ynys am rhai blynyddoedd tan i wenwyn llygod mawr cael i osod i ddifa’r llygod. Erbyn heddiw mae sawl pâr yn nythu yn rheolaidd ar yr Ynys, ac mae'r boblogaeth yn ehangu. Ar ein taith mi ddalwyd un. Tydi’r pig ddim cymaint o broblem ac un y Llurs ond mae ganddynt ewinadd bach digon miniog a hefo hein maent yn gwneud y llanast.

Mi o’n i’n weddol lan pan gychwynnais allan i’r ynys, ond budd rhaid tynnu'r dillad drewllyd wrth ddrws cefn, ne fyddai ddim yn cael mynd i’r tŷ i gael cawod.

Friday 12 June 2009

Newyddion trist y tro ma yn anffodus. Allan bore Mawrth i fodrwyo pedwar nyth Titw Glas dylai fod yn barod, dim ond i gael yn pob blwch cywion wedi marw. Roedd yn debyg fod y glaw dibaid a gafom dros y penwythnos wedi bod yn drech a'r rhieni. Methu cael gafael mewn lindysod, y rhain mwy na thebyg wedi cael eu golchi oddi'r dail gan y glaw.

Yna ddoe allan i goedwig arall i wneud Gwibedog a Thingoch a chael saith cyw yr un wedi marw. Tybed a oeddy storom taranau y diwrnod cynt wedi amharu ar y rhieni i hela am fwyd?

Yna cael newyddion calonogol ddoe am nyth Dylluan Wen gyda chywion lawr yn ardal Gwynfe. Wedi gwneud trefiadau i fynd yno Mawrth nesa' ac mae nyth gennyf yn barod i fodrwyo.
Hefyd wedi dechrau ar Y Barcud Coch yn awr a dyna wythnos arall prysur o'm blaen.

Wednesday 10 June 2009

CES 4 Y Gors

Bora bendigedig eto yn y gors. Erby ddiwedd y bora, roeddwn i wedi dal 26 o adar, ar mwyafrif yn Deloriad yr Hesg. Roedd y rhan fwyaf o'r rhain wedi eu modrwyo yn barod a'r mwyafrif yn geiliogod - arwydd fod yr ieir yn gori. Yn eu plith hefyd, roedd y cyw Bras y Gors gyntaf i mi ei ddal y tymo hwnr. Yn awr, rwyf yn edrych ymlaen at y sesiwn nesaf, pan y bydd cywion eleni yn dechrau ymddangos o ddifrif .

Ar fore mor braf, 'roedd yna lawer o Weision Neidr yn hedfan. Gyda'u llygaid mawr, mae y rhan fwyaf yn llwyddo i osgoi’r rhwyd, ond aeth un i mewn iddi ac wrth ei ryddhau fe gefais sawl brathiad. Ond, cofiwch, 'doedd hwn ddim hanner mor boenus a brathiadau'r gwybaid yn gynharach yn yr wythnos !

Monday 8 June 2009

Ble mae'r amser yn mynd dwedwch? Ers y tro diwetha' rwy wedi modrwyo tua 150 o gywion ynamrywio o'r Titws i y Tingoch. Dydi'r Titw Glas ddim yn gwneud mor dda yma eleni, ond bydd riad sfyll hyd y diwedd cyn cyn cael ffigurau cadarn.

Cael bore diddorol iawn ar y cynta o'r mis. Mae gen i tri blwch yng ngardd yr ysgol lleol, Ysgol Dolafon, Llanwrtid, ac fe weithiodd un blwch allan yn dda, gan fod y plant nol yn yr ysgol ar ol y gwyliau. Felly lawr yno yn y bore ac siarad am dipyn gyda' plant am rhesymau modrwyo a dangos yr offer iddynt cyn mynd i gael y cywion allan o'r blwch. 'Roedd pum cyw Titw Mawr yno, ac roedd yn bleser clywed y tawelwch wrth i mi ddangos fel oedd modrwyo iddynt, hyd at penderfynnodd un o'r cywion roi anreg i mi ar fy llaw!!!.  Ond eto oedd hwn yn gyfle i ddangos fel roedd rhieni yn medru cario y baw allan o'r nyth heb sathru'r nyth.

Yna, roedd y cwestiynau'n llifo, ac er fy mod dim ond eisiau bod yno am tua hanner awr aeth dwy awr heibio fel yna.

Wedi bod allan heddiw yn modrwyo teulu o bedwar Dylluan Wen, mewn hen ffermdy yng nghanol yr Epynt, gyda bwledi a bomiau yn taranu dros y lle i gyd. Er bod y fyddin wedi trwsio'r fferm er mwyn i'r milwyr ei ddefnyddio fel lloches mae'r blwch yn weddol uchel, ac mae yn syndod fel mae y Dylluan yn cyfarwyddo gyda'r swn ac yn nythu yno yn reolaidd. Y peth pwysig yw fod yna ddigon o le i hela am eu bwyd.

Dyna ni am 'nawr.

Tuesday 2 June 2009



CES 4

Dau fai sydd yna ar yr adeg yma o’r flwyddyn: sef, gorfod codi am dri yn y bore i godi rhwydi, a gwybed. Rwyf yn un o rhai mae'r gwybed yn garu. Bore heddiw - cyfle i wneud arolwg CES 4 ar y safle preswydd. Roedd hi'n wawr fendigedig, heblaw am yr holl wybed oedd yn fy nilyn i bobman. Cofnodwyd cywion cyntaf y flwyddyn i’r Siffsaff, Telor Helyg, ac i un o’n hoff ffrindiau yn yr ardd.


Dyfalwch beth yw'r aderyn cyffredin yma, yn ei ddillad nyth. Atebion I Mr Cynhyrchydd

Hefyd, ers tro rŵan, mae yna Gnocell Fraith Fwyaf wedi bod yn hedfan o amgylch y safle ac yn llwyddo i osgoi'r rhwydi pob tro. Ond, nid bore heddiw. Ac o'r diwedd, ar ôl iddo dynnu gwaed o'm mysedd wrth i mi ei ryddhau o’r rhwyd, fe gafodd ei fodrwy. Mae yn hawdd dyfalu oed yr aderyn hwn. Mae'r plu nyth yn oleuach na'r plu newydd, sydd yn dangos mae aderyn wedi magu llynedd yw hwn. Mae y coch ar gefn ei ben yn dangos mae ceiliog ydyw - ar gywaed ar fy mysedd yn dangos ei fod o'n flin !