Wednesday 18 November 2009

Ji – binc


Yn ystod gaeaf 2008/09 cefais y cyfle i fynd i fferm Eirwyn Pritchard yn Uwchmynydd, ger Aberdaron. Mae Eirwyn a’r teulu yn ffodus am fod yna boblogaeth da o’r Bras Melyn yn yr ardal. Hefyd maer Bras yn manteisio ar fwyd ieir Eirwyn, ac yn dod am damaid pob pnawn ar ôl i’r ieir cael i swper. Hefyd mae llawer o rhywogaethau erail yn manteisio ar y bwyd

Yn Nhachwedd dalwyd a modrwyed sawl Ji-binc yn cynwys un iar fach oedd wedi genni y gwanwyn cynt. Yr wythnos yma cefais lythu’r gan y BTO. Druan, mi oedd yr iâr fach Ji-binc V874317 wedi hedfan y holl fordd i Sweden, ac wedi lladd wrth hedfan i mewn i adeilad a’r y bumed o Fai. Mae wedi mynd 1321 KM o Uwchmynydd i Sweden.


Sunday 15 November 2009

Mae gwynegon yr esgyrn wedi cyfyngu fy nghwaith gyda 'r adar dros yr wythnosau diwetha' yma, ond wythnos diwetha' fe fum yn symud blwch Tylluan Wen mewn hen ffermdy sydd yn cael ei ddefnyddio gan milwyr ar yr Epynt. Er fod y milwyr yno yn gyson yn y nos mae'r par codi teulu yno dros y tair blynedd diwetha'. Mae yn profi taw unwaith mae y Dylluan yn sefydlu eu nyth maent yn dryw i honno dros y blynyddoedd.

Nol i'r ty erbyn hanner dydd a nghyfaill Tony yn penderfynu rhoi rhwyd allan yn yr ardd am ' hanner fach' fel y dywedodd!!

Wel, dwy awr yn ddiweddarach a 59 o adar dyna siawns i gael y rhwyd lawr. Mae gen i orsaf bwydo a 6 bwydwr ynddo ac er fy mod yn eu cyfri i Garden Bird Watch bob wythnos mae nifer yr adar yn llawer mwy nac roeddwn i yn amcangyfri. Yn y cyfanswm roedd y Titywod ar y mwya, yna y Jibinc, Llinos Werdd, Adar y To, Llwyd y Gwrych, Robin, Delor y Cnau, a'r Gnocell Fraith Fawr.

Beth oedd yn ddiddorol oedd y faith fy mod wedi modrwyo dros gant o gywion y flwyddyn hon o flychod o gwmpas y ty, ac eto doedd dim o rhain wedi eu dal yn y rhwyd. Mae hyn yn ategu at adroddiad a wnaethpwyd tua tair. pedair blynedd yn ol bod llawer o adar ardal yma o Phowys yn mudo i'r Dde Cymru yn y gaeaf.

Gobeithio rhwydo yn yr ardd eto yn y flwyddyn newydd pan fydd y Pila Werdd a'r Nico yn dod i fwydo.