Nol i'r ty erbyn hanner dydd a nghyfaill Tony yn penderfynu rhoi rhwyd allan yn yr ardd am ' hanner fach' fel y dywedodd!!
Wel, dwy awr yn ddiweddarach a 59 o adar dyna siawns i gael y rhwyd lawr. Mae gen i orsaf bwydo a 6 bwydwr ynddo ac er fy mod yn eu cyfri i Garden Bird Watch bob wythnos mae nifer yr adar yn llawer mwy nac roeddwn i yn amcangyfri. Yn y cyfanswm roedd y Titywod ar y mwya, yna y Jibinc, Llinos Werdd, Adar y To, Llwyd y Gwrych, Robin, Delor y Cnau, a'r Gnocell Fraith Fawr.
Beth oedd yn ddiddorol oedd y faith fy mod wedi modrwyo dros gant o gywion y flwyddyn hon o flychod o gwmpas y ty, ac eto doedd dim o rhain wedi eu dal yn y rhwyd. Mae hyn yn ategu at adroddiad a wnaethpwyd tua tair. pedair blynedd yn ol bod llawer o adar ardal yma o Phowys yn mudo i'r Dde Cymru yn y gaeaf.
Gobeithio rhwydo yn yr ardd eto yn y flwyddyn newydd pan fydd y Pila Werdd a'r Nico yn dod i fwydo.
No comments:
Post a Comment