Monday 26 October 2009

Dryw Fflamben

Un o uchel bwyntiau o fodrwyo'r amser yma o’r flwyddyn ydi’r disgwyliad o beth fydd yn y rhwyd. Codi am bump bore yma ac allan i osod rhwydi er mwyn dal mwy o’r Coch dan aden sydd yn ymfudo rŵan. Bora digon distaw, mond dal tair Coch dan aden, dwy Fwyalchen, ac iâr Coch y berllan erbyn wyth o’ gloch. Wrth tynnu'r rhwydi ai rhoi yn ôl yn i bagiau, dyma wneud penderfyniad sydyn i osod rhwyd fanach na’r rhwyd dal y bronfreithod, a rhoi awr arall cyn mynd adra i ddechrau gwaith. Wel mond dau aderyn am yr awr, ond gem o aderyn mewn Dryw Fflamben, ai cefnder y Dryw Aurben.



Ceiliog Dryw Fflamben, hefo’r fflam oren tywyll ar dop i ben.


Y Dryw Aurben yn iâr hefo melyn ar dop ei ffen hi.

Beth arall sydd i ddal hydref yma?

Kelvin

No comments:

Post a Comment