Wednesday 27 May 2009


Dyma bach o amser i ysgrifennu rhywbeth wto. Mae wedi prysuro erbyn hyn, ac rydym yn ganol yr amser bridio. mae yna newyddion da a drwg . Bu y tywydd garw y penwythnos cyn diwetha' ddim yn garedig i rhai o'r adar. 'Roedd nyth Teiliwr Llundain (Nico) gen'i mewn perth yn yr ardd o fewn troedfedd o'r llawr sy'n anarferol iawn, gweler y llun. Felly roeddwn yn medru eu gweld bob dydd o ffenest y gegin. Erbyn y 16 o Fai roedd 4 wy yn y nyth, ac oedd yn eistedd yn gysurus iawn, ond ar y trydydd dydd o law ar y Sul, dyma hi yn gadael ac ni fu yn ol ers hynny.
Yn yr wythnos bum allan yn modrwyo rhai o'r Brain Coes Goch yng Ngheredigion gyda Tony, ac fel y dywedwyd Kelvin maent yn gwneud yn dda y flwyddyn yma. Yna dau ddiwrnod allan ar nythod y Barcud ac mae popeth yn edrych yn addawol yno gyda 5 nyth a chywion.

Yna penwythnos y Sulgwyn gwneud rowndiau o'r blychod a modrwyo dau nyth o Delor y Cnau ac un nyth o Drochwyr, ac hefyd dwy nyth o'r Titw Mawr. Bydd y diwrnodau nesa' yn brysur gan fod llawer o'r blychod bron a fod yn barod i fodrwyo.


Tuesday 26 May 2009

CES

Ar ôl wythnosau o dywydd gwyntog a gwlyb, fore Sul oedd y cyfle cyntaf i wneud y CES ers yr ymweliad cyntaf un. Aeth Adrienne i’r safle preswydd, a minnau i’r gors. oedd hi'n fore bendigedig, a phum awr yn ddiweddarach, roedd ugain o adar wedi eu dal. Dim llawer, meddai chi, ond roedd mwy na'u hanner yn gwisgo modrwya yn barod, a dyma ydi’r math o ddata mae'r cynllun ei angen. O’r naw Telor yr Hesg ddalwyd, roedd 4 eisoes â modrwyau; roedd un wedi ei fodrwyo yn gyw ar y safle yn 2007 ac wedi dychwelyd yn ôl gartref i nythu am yr ail flwyddyn. Cofiwch fod yr aderyn bach yna yn pwyso 11gms a'i fod wedi croesi y Sarha bedair gwaith erbyn hyn.

Cafodd Adrienne well lwc; daliodd dros ddeg a'r hugain o adar yn ystod y pum awr. Roedd hyn yn cynnwys sawl Siffsaff newydd i’r safle, a chwe Mwyalchen. Dim un o'r rhain yn gywion eleni, ond yn adar tros flwydd oed. Ble mae'r rhain wedi bod yn cyddio tybed?. Wrth edrych ar aden Mwyalchen, mae'n bosib cael ryw syniad o’i oed. Pan y byddant yn mewid plu, o blu nyth i rai oedolyn, ni fyddant yn mewid y “Greater Coverts” i gyd ac mae hyn yn gadel llinell i'w gweld yn y plu, sydd yn rhoi ryw syniad o oed yr aderyn. Os bydd y linell hon i'w gweld, yna mae yn dderyn y flwyddyn ac os nad yw i'w gweld, yna, wel, mae yr aderyn tros flwydd oed. Edrychwch yn fanwl ar y ceiliogod Mwyalchod yn eich gerddi yn y gaeaf ac mae yn hawdd gweld hyn.
Mae y linell felen yn y llun hwn yn dangos ble mae'r newid :


Brain Coes Goch

Mae tymor modrwyo cywion y Brain Goesgoch wedi cyrraedd. Dydd Llyn Gŵyl y Banc, ac i fwrdd ar tîm i arfordir gogledd Môn hefo'r ysgolion a'r modrwyau. 'Does ond modd cyrraedd ambell un o’r ogofau ar waelod y llanw, ac wedyn mae rhaid cael yr ysgol i’r gwaelod cyn mynd at y cywion.. Roedd yna chwe safle ar y rhestr am y diwrnod, a thros ugain o gywion i'w modrwyo. Mae yn edrych fel blwyddyn dda i’r Brain ar Ynys Mon. O siarad â Tony Cross, mae yn edrych fel y bydd Brain Goesgoch Ceredigion yn cael un o’r blynyddoedd gorau erioed hefyd.

Wednesday 13 May 2009

Wedi bod yn y tridiau diwetha' yn mynd rownd y blychod sy gen'ni i weld pa gyflwr mae yr adar.
Rhan fwya o'r blychod gyda aderyn ar wyau,ond mae edrych ar yr olwg gynta' bod prinder o'r Titw Glas y flwyddyn hon. Ydi tywydd oer Mis Chwefror wedi gwneud gwahaniaeth wn i?

Fel y disgwyl mae Delor y Cnau wedi deor cywion mewn tri blwch. Wedi trio modrwyo nyth arall o'r Trochwr ond yr unig llwyddiant gefais oedd llond 'wellingtons' o ddwr a tun gwlyb. 'Roedd y nyth o dan bont gyfyng ac isel ac 'roedd y cerrig yn llithrig. Rhaid sefyll i'r dwr gostwng ond mwy na thebyg bydd y cywion wedi hedfan erbyn hynny.

Mae pob nyth o'r Barcud sy gen'i gyda'r iar yn eistedd 'nawr rhan fwya o'r dydd, felly mae wedi dodwy o leia un os na dau wy erbyn hyn. Gobeithio bydd y tywydd yn ffafriol iddynt.

Saturday 9 May 2009

Barcud Coch

Bore Sadwrn a'r tywydd yn edrych yn ffafriol, a chan fod ddim cywion yn barod i fodrwyo, penderfynnu mynd allan i gadarnhau lleoliad rhai nythod y Barcud. Er eu bod yn adar weddol fawr eu golwg, erbyn yr amser hyn os nad ydych wedi ffeindio y goeden lle mae y nyth, mae yn tipyn  caletach nawr gan fod y dail allan ar y coed.  a mae y barcud yn feistr o mynd allan o'r nyth yn dawel fach a'r peth nesa' chi'n gweld yw un yn yr awyr tua can troedfedd i fyny. Dros y blynyddoedd rwy'n teimlo fy mod i wedi dod yn tipyn o feistr o gael gafael mewn nyth, ond mae sawl un yn gwneud mwnci ohonof hefyd.

Cael gafael yn dwy nyth newydd yn weddol hawdd, y ddwy tua dwy filltir i ffwrddd o'i gilydd, ond y trydydd, wel ar ol dringo i lan ac i lawr y goedwig hon am tua awr a hanner dim lwc. Y peth gorau wedyn i gadael yn lle aflonyddu y Barcud gormod. Nol ac eistedd yn y car ac wrth gwrs dyma fi'n gweld un Barcud yn syth i goeden roeddwn wedi edrych arno gynt ond heb weld dim. Cofnodi'r lle a gadael am y tro nesa'. Erbyn hyn 'roedd y glaw wedi cyrraedd ac mae yn well gadael iddynt yn llonydd er mwyn eu cadw ar y nyth i gadw tymeredd yr wyau yn gyson.

Felly nol adre' am damaid i fwyta ar ol bore weddol lewyrchus.

Friday 8 May 2009

Wel dyma ni wedi cyrraedd y tymor modrwyo unwaith eto. Wrth gwrs cyn dechrau mae'n rhaid gwneud yn siwr fod y trwyddedau wedi cael eu derbyn oddiwrth y BTO, gan eu bod yn angyfreithlon i fynd y agos at unrhyw nyth heb y caniatad a'r trwydded addas. Yna mae rhaid cysylltu gyda perchnogion y tir yr ydych yn mynd arno, ond ar y mwya mae hyn yn sefyll o flwyddyn i flwyddyn ac maent yn dod i'ch adnabod a'ch cerbyd.
Roeddwn wedi bod allan yn edrych ar nythod y Trochwr yn gynnar yn Ebrill, ac 'roedd un neu ddau nyth a cywion bron o fod yn brod i fodrwyo.
Felly allan mi a'r plant ar fore Sadwrn yr 25ain. Ebrill, gobeithio dysgu'r plant yn ifanc fel i werthfawrogi bywyd gwyllt, a chael dwy nyth yn barod. Dyma modrwyo 4 cyw mewn un nyth a thri yn y llall, pob un yn edrych yn dda a thua 10/12 dydd oed. Edrych mewn tair nyth arall ond neb wedi deor eto.

Bryan
Tylluanod Brech

Yma yn nyffryn Madog a Maentwrog mae gennyt lawer o flychod wedi gosod er mwyn y Dylluan Frech. Tymor yma nid ydynt yn cael llawer o lwyddiant, hefo ychydig iawn ohonynt yn nythu. Y teimlad yw bod 'na ddim llawr o lygod bach eleni i ddod a nhw i’r cyflwr magu.

Un o bleserau mynd i edrych ar y blychau ydi cael hyd i rywogaethau eraill sydd yn ei defnyddio. Yma ar lan y Glaslyn mae sawl par o hwyaid Mandarin yn defnyddio’r bychod. Mi oedd yr iâr yma yn ista a’r 14 o wyau. Dyma'r drydedd flwyddyn iddi nythu yn y bwlch yma, llynedd mi oedd yn eistedd ar 17 o wyau, a mond un gwnaeth ddim deori. Fydd y cywion yn neidio allan o’r bwlch pan meant yn ddiwrnod oed. Pan meant yn hun ar yr afon mae yn amhosib dal.

Kelvin






Y safle preswydd
Mae'r safle hwn yn amgylchynu llyn, ac mae sawl rhwyd yn cael ei gosod fel ffyrch olwyn o amgylch y llyn. Gall gymeryd, fan leiaf, 20 munud i ni godi y rhain, ac rydym ni wedi bod yn defnyddio’r safle ers 2000.
Bora Sadwrn 2 Fai. Roedd rhagolygon y tywydd yn ffafriol. Roedd côr y wig yn werth ei glywed tra'r oeddem ni'n codi'r rhwydi, ac fe gawsom ddiwrnod di fai, gan ddal 41 o adar erbyn 10 o’r gloch. Ymhlith yr uchel bwyntiau roedd tri Telor yr Helyg (Willow warbler) wedi dychwelyd, un wedi cael ei fodrwyo yn 2007 a'r ddau arall yn 2008. Dau Delor yr Ardd (Garden warbler) un o 2006 a llall o 2008. Un Siffsaff (Chiffchaff) (2007) a Siani Lwyd (Dunnock) oedd wedi cael i fodrwyo yn 2003. Cafwyd amrywiaeth da o adar eraill hefyd, ac fe allwn obeithio am well tymor eleni na'r llynedd.
Y gors.
Roeddwn i yn ffodus ar fora Sadwrn 26 Ebrill, diwrnod cyntaf y cynllun, gan ei bod yn fore llonydd, cymylog. Am 5 o’r gloch, roeddwn i yn codi'r rhwydi ac yn gwrando ar Deloriad yr Hesg (Sedge warbler) yn cannu. Un rhediad o bedair rhwyd yn cynnwys 240 o droedfeddi sydd yma. Nid fyddaf yn disgwyl dal ryw lawer yn ystod y sesiwn cyntaf gan na fydd y rhan fwyaf o'r adar mudol wedi cyrraedd yn ôl. Y bore hwnnw, yr aderyn cyntaf allan o’r rhwyd oedd y Troellwr Bach (Grasshopper warbler). Dechrau da, ond i lawr allt yr aeth pethau wedyn. Daeth 10 o’r gloch a dim ond 13 o adar wedi eu dal. Ond, ymhlith y rhain 'roedd tri Bras y Gors (Reed bunting), dau wedi eu modrwy yn gywion ifanc yn 2008 a nawr yn geiliogod smart; iâr oedd y tyrdydd, wedi modrwyo yn 2006. Roedd yna ddau Delor yr Hesg (Sedge warbler) hefyd, un Telor yr Helyg (Willow warbler) a thair Llinos Bengoch (Lesser Redpoll). Ar ben hynny, roedd ceiliog Telor Cetti (Cetti’s warbler) yn hedfan 'nôl a blaen wrth ymyl y rhwyd, ond aeth o ddim i mewn. Y tro nesa, gobeithio !

Kelvin


Un rhan o’r cynllun modrwyo yw CES neu Constant Effort Scheme. Mae y CES yn brosiect sydd yn rhoi hel gwybodaeth ar bob agwedd o fywyd yr adar i wyddonwyr y BTO. Dan y cynllyn hwn, fe ofynnir i fodrwywyr osod rhwydi man (mist nets), ar un safle o'u dewis 12 o weithiau rhwng dechrau mis Mai a diwedd Awst. Gosodir yr un hyd o rwydi yn yr un man, am 5 awr ar ôl toriad y wawr. Wrth wneud fel hyn rydym yn cael gwybod pa adar sydd yn dal tiriogaeth ar y safle, faint o gywion maent yn fagu tros y tymor, faint o adar mudol ddychwelodd yno (o'r Affrig e.e.) , ac am ba hyd y byddent yn byw. Tros Brydain i gyd, does yna ond ryw 115 o safleoedd yn cael eu defnyddio. Mae angen bore llonydd, di-wynt, ar gyfer y gwaith yma. Mae angen ymroddiad mawr hefyd, nid pawb sy'n awyddus i godi am 2 o’r glochhyd yn oed ar fore o Fehefin, i osod y rhwydi cyn iddi wawrio. Ac, i bobol sydd yn gweithio drwy'r wythnos, mae'n golygu aberthu eu penwythnos er mwyn y cynllun hefyd. Yma yn y gogledd, rwyf yn ffodus fod yr adarydd, Adrienne Stratford, a minnau yn medru cynnal dau CES, un ar gors wlyb, a'r llall ar rosdir llawn prysgwydd. Ar y rhosdir, byddwn yn gweithio yn ystod y gaeaf i reoli’r tyfiant a'u cadw yn lwynni yn hytrach na bod coedwig yn datblygu yno.
Safleodd CES yn Nghymru


Fel aelodau o'r BTO (British Trust for Ornithology) rydym ni yn dathlu canmlwyddiant ein cynllyn modrwyo eleni. Yma yng Nghymru ychydig iawn o Gymry Cymraeg sydd yn gwirfoddoli fel modrwywyr. Rwyf yn adnabod 5 arall, dyna'r cyfan - ond os oes yna fwy, yna d'wi'n ymddiheuro iddyn nhw rŵan hyn. Mae Bryan Jones, Llangamarch a finnau yn rhan o dîm Galwad Cynnar ar Radio Cymru ar foreuau Sadwrn ac, yn ystod y flwyddyn sy'n dod, rydym drwy'r rhaglen ac ar y 'blog' am geisio rhoi braslyn o'r hyn y byddwn ni, fel modrwywyr trwyddedig, yn ei wneud.. Rhwng y ddau o honnom, byddwn yn modrwyo adar ar gyfer sawl rhan o’r prosiect modrwyo; o adar mewn blychau nythu, i rai ar safle modrwyo ble defnyddir rhwydi mân (mist nets). Rydym yn gobeithio y gallwn ni rhoi blas o’r gwaith trwy gydol y flwyddyn, ac, efallai y llwyddwn ni i ennyn diddordeb mwy o Gymru Cymraeg mewn hyfforddiant i fod yn fodrwywyr ac i weithio ar y cynllun.

Kelvin