Sunday 30 August 2009

Offer pysgota

Dros y blynyddoedd mae rhywun yn cael profiad o lawer o wahanol adar, o’r lleiaf i’r mwyaf yr alarch dof. Ers dechrau modrwyo mae dal elyrch wedi brifo wedi dod yn rhan o fy nywyd pod haf, pan mae'r ymwelwyr yn defnyddio offer dal crancod yn harbwr Porthmadog. Bore Sadwrn galwad ffôn fod yna alarch a rhywbeth o’i le hefo ei aden. Cyfarfod a chyfaill ac mi oedd yn amlowg for rhyw fath o linell pysgota wedi rhwymo am yr aden dde ai gwddw. Mi oedd y llanw i mewn ac mi oedd yn cadw tu allan i hyn polyn. Haf y cyfaill yn mynd i swyddfa harbwr ac mi ddoth Trefor yr harbwr feistr yn i gwch bach ac arwain yr alarch i hyd afael, ac yma allan a hi.


Ar lan a thynnu'r bachyn, pwysau a thamaid o’r llinyn o’r aden. Mi oedd dim byd mawr yn matter ond fod y llinyn trwm wedi rhwbio yn erbyn yr aden ac mi oedd wedi gwaedu ychydig. Modrwy am i goes yn sydyn, ac yn ôl ar y dŵr dim gwaeth.


Dros y blynyddoedd offer pysgota sydd wedi creu y rhan fwyaf o broblemau i’r elyrch lleol. Rwyf wedi gweld un ymwelwr hefo genwair tŷ trio tynnu'r bachyn allan o’r alarch wrth dynnu, ac mae rhai yn mynnu pysgota crancod er bod 'na nifer o elyrch ar y dŵr ger llaw. Pan mae rhaid defnyddio bachyn, i ddal tamaid o ben pysgodyn i granc?

Tuesday 25 August 2009

Diwedd CES y gors

Mi oedd flwch yn y tywydd hydrefol bore ddoe. Am ddau o’r gloch mi oedd yn bwrw yn drwm yma yn Nhremadog, ond erbyn pump mi oedd y gwynt yn llonydd ac mi oedd yn edrych yn fore braf. Ar hyn cafwyd y penderfyniad i fynd i wneud yr ymweliad diwetha’ i CES yn y gors. Mae'r ddau ymweliad diwetha' wedi bod digon slack, yn amlwg fod llawer o’r adar ymfudol wedi mynd. Wel am syndod, 89 o adar wedi dal, yn amlwg llawer o adar wedi cael i dal yn ôl o’r daith i Affrica gan dywydd y dyddiau cynt. Un Telor yr Hesg yn pwyso 14 gram ac yn saim melyn dros i gorf i gyd. Pan meant yn magu meant yn pwyso 10 gram, ond mae rhaid cofio fod y saim yn gynnud i gadw’r aderyn bach yma fynd y holl ford i Affrica.

Aderyn sydd yn nythu ar gyfagos i’r safle yw’r Troellwr bach, and pur yn aml fydd un yn cael i ddal. Dalwyd yr oedolyn yma, edrychwch ar y plu. Mae hein wedi tyfu yn Affrica mis Tachwedd llynedd ac erbyn heddiw meant wedi gweld i gorau, ond fydd y rhaid i hyn weld yr aderyn bach yma yn ôl i Africa cyn ceith siwt newydd.


Fydd rhywfaint o fodrwyo yn cael i wneud eto yn y gors cyn i dywydd garw'r gaeaf rhoi ddiwedd arno, ond targedi’r adar sydd yma drwy'r flwyddyn fel Bras y Gors ar Telor Cetti. Hefyd dal rhywfaint o’r gwennoliaid fydd yn aros yn y gors fel Llety ar i ford i’r Affrica.

Diwedd tymor


Mae'r flwyddyn adaryddol i mi yn dechrau neu ddarfod hefo cyrraedd yr hydref. Wel mae'r hydref wedi cyrraedd. Dydd Gwener wythnos diwethaf mi aethom yn ôl i’r nyth Tylluan Wen olaf y flwyddyn. Yn fis Gorffennaf pan aethon i ymweld â’r safleoedd, mi roedd 'na bedwar wy yn y safle yma. Safle digon od, tamaid o felt to wedi ddal yn i le gan “chicken wire” fel rhyw fath o ynysiad, mae'r dylluan wedi mynd i mewn rhwng y to ar felt ai ddefnyddio fel safle nythu. Yn anffodus mae ar fin disgyn o achos y holl bwysau hen belenni wedi taflu yno gan sawl cenhedlaeth o dylluanod dros y blynyddoedd. Dyma le fydd rhaid gosod bwlch Newydd dros y gaeaf neu golli'r safle. Un cyw oedd yn y nyth a hwn ddigon tew, bron yn 380 gms, tydi oedolyn dim ond 280!!!. Mi ofynnai I Rhodri Dafydd am damaid ar sut flwyddyn cafodd y tylluanod yn gyffredinol pan fydd wedi cael y canlyniadau i gyn.

Sunday 23 August 2009

wedi bod yn dawel yma 'nawr ac yn aflwyddianus hefyd. Er fy mod wedi bod allan gyda fy nghyfaill Tony ar ol y Troellwr, dim lwc ar y nosweithiau 'rydw i wedi bod gydag. Wrth gwrs, pan nad ydw i yno mae wedi dal hyd at chwech mewn noswaith. Dyna ni, fel yna mae ar brydiau. Wrth fy ngwaith gyda'r gwyfynnod rydw'i wedi darganfod dau ardal newydd lle mae y Troellwr, gan fy mod yn rhedeg tap ei gan ac yn siwr mae hyd dau yn hedfan heibio i weld beth sydd yno. Ond mynd allan gyda'r rhwydi y noswaith canlynol dim lwc o gwbl.

Ni fydd y tymor modrwyo yn gorffen gyda'r Hydref a'r Gaeaf yn agosau, gan y fyddwn cyn bo hir yn troedio traethau Ceredigion gyda'r nos i edrych am Pibyddion. Byddwn yn a golau cryf iawn a rhwyd a cherdded yn ddistaw am yr adar a gobeithio eu dal yn y rhwyd. Mae rhaid gweithio gyda y llanw a thrai, a'r amser gorau ydi pan fydd y llanw ar fin troi. Rhai nosweithiau efallai cerddwn sawl milltir a dim ond dal hanner dwsin a'i modrwyo, ond ar noson arall fedrwn modrwyo ugain mewn llai na hanner milltir.

Erbyn Tachwedd byddwn mynd o amgylch pontydd y Canolbarth i edrych am y Trochwr sydd yn cysgu o dan y pontydd dros nos. Gwaith oer a gwlyb ar brydiau ond yn ddiddorol er hynny. Erbyn hyn rydym yn mwy tebyg i ail ddal yr adar rydym wedi modrwyo dros y blynyddoedd.

Ac yna erbyn diwedd y flwyddyn ac i mewn i'r flwyddyn newydd allan i rhwydo y Cyffylog. Prosiect a ddechreuodd dwy flynedd yn ol. Mae y Cyffylog yn hoff o fwyda allan ar gaeau sydd wedi cael eu pori gan ddefaid pan fydd yn dywyll. Rydym wedi dysgu taw y nosweithiau gorau yw dal ydi noson wyntog a glaw man, felly digon o ddillad glaw a rhywbeth bach nol yn y modur i'n gwresogi!!

Monday 10 August 2009

Arddangosiad Modrwyo


Bore Sadwrn mi roedd y tîm modrwyo yn rhoi ei arddangosfa flynyddol yn warchodfa RSPB yng Nghonwy. Dechrau cynnar hefo’r rhwydi wedi gosod erbyn chwech a’r cyhoedd yw derbyn ar ôl chwech. Dros y bora dalwyd dros 60 o adar, o sawl rhywogaeth, ac mi roedd llawer o bobol ifanc â phlant ai rhieni wedi dŵad i weld a dysgu. Mae yn bleser mawr gweld yr ifanc yn dŵad i arddangosiadau fel hyn, rwyf yn teimlo yn gryf fod rhaid plannu’r hadyn diddordeb yn ifanc a fydd yna am byth.

Un o’r uchafbwyntiau i’r plant oedd y cwis wedi gwneud gan Falmai Matulla. Ar y bwrdd mae dewisiad o wahanol fodrwya, ac wedyn mae rhaid i’r plant ddyfalu ar ba aderyn mae’r gwahanol faint o forwydd yn mynd. Mi gadwodd hyn llawer i un yn brysur.

Friday 7 August 2009

Wedi mynd i grwydro


Cefais alwad ffôn yn gynnar bora yma. Mae un o’r Creuod bach gwyn cafwyd i modrwyo yn dechrau mis Mehefin wedi cael i gweld yn Antrim, yng ngogledd Iwerddon. I le eith lleill sgwn i.
Mwy o grwydro.
Galwad arall bora yma (dydd Sul) mae na un arall wedi mynd i Ynys Manaw!!