Sunday 23 August 2009

wedi bod yn dawel yma 'nawr ac yn aflwyddianus hefyd. Er fy mod wedi bod allan gyda fy nghyfaill Tony ar ol y Troellwr, dim lwc ar y nosweithiau 'rydw i wedi bod gydag. Wrth gwrs, pan nad ydw i yno mae wedi dal hyd at chwech mewn noswaith. Dyna ni, fel yna mae ar brydiau. Wrth fy ngwaith gyda'r gwyfynnod rydw'i wedi darganfod dau ardal newydd lle mae y Troellwr, gan fy mod yn rhedeg tap ei gan ac yn siwr mae hyd dau yn hedfan heibio i weld beth sydd yno. Ond mynd allan gyda'r rhwydi y noswaith canlynol dim lwc o gwbl.

Ni fydd y tymor modrwyo yn gorffen gyda'r Hydref a'r Gaeaf yn agosau, gan y fyddwn cyn bo hir yn troedio traethau Ceredigion gyda'r nos i edrych am Pibyddion. Byddwn yn a golau cryf iawn a rhwyd a cherdded yn ddistaw am yr adar a gobeithio eu dal yn y rhwyd. Mae rhaid gweithio gyda y llanw a thrai, a'r amser gorau ydi pan fydd y llanw ar fin troi. Rhai nosweithiau efallai cerddwn sawl milltir a dim ond dal hanner dwsin a'i modrwyo, ond ar noson arall fedrwn modrwyo ugain mewn llai na hanner milltir.

Erbyn Tachwedd byddwn mynd o amgylch pontydd y Canolbarth i edrych am y Trochwr sydd yn cysgu o dan y pontydd dros nos. Gwaith oer a gwlyb ar brydiau ond yn ddiddorol er hynny. Erbyn hyn rydym yn mwy tebyg i ail ddal yr adar rydym wedi modrwyo dros y blynyddoedd.

Ac yna erbyn diwedd y flwyddyn ac i mewn i'r flwyddyn newydd allan i rhwydo y Cyffylog. Prosiect a ddechreuodd dwy flynedd yn ol. Mae y Cyffylog yn hoff o fwyda allan ar gaeau sydd wedi cael eu pori gan ddefaid pan fydd yn dywyll. Rydym wedi dysgu taw y nosweithiau gorau yw dal ydi noson wyntog a glaw man, felly digon o ddillad glaw a rhywbeth bach nol yn y modur i'n gwresogi!!

No comments:

Post a Comment