Monday 10 August 2009

Arddangosiad Modrwyo


Bore Sadwrn mi roedd y tîm modrwyo yn rhoi ei arddangosfa flynyddol yn warchodfa RSPB yng Nghonwy. Dechrau cynnar hefo’r rhwydi wedi gosod erbyn chwech a’r cyhoedd yw derbyn ar ôl chwech. Dros y bora dalwyd dros 60 o adar, o sawl rhywogaeth, ac mi roedd llawer o bobol ifanc â phlant ai rhieni wedi dŵad i weld a dysgu. Mae yn bleser mawr gweld yr ifanc yn dŵad i arddangosiadau fel hyn, rwyf yn teimlo yn gryf fod rhaid plannu’r hadyn diddordeb yn ifanc a fydd yna am byth.

Un o’r uchafbwyntiau i’r plant oedd y cwis wedi gwneud gan Falmai Matulla. Ar y bwrdd mae dewisiad o wahanol fodrwya, ac wedyn mae rhaid i’r plant ddyfalu ar ba aderyn mae’r gwahanol faint o forwydd yn mynd. Mi gadwodd hyn llawer i un yn brysur.

No comments:

Post a Comment