Monday 26 October 2009

Dryw Fflamben

Un o uchel bwyntiau o fodrwyo'r amser yma o’r flwyddyn ydi’r disgwyliad o beth fydd yn y rhwyd. Codi am bump bore yma ac allan i osod rhwydi er mwyn dal mwy o’r Coch dan aden sydd yn ymfudo rŵan. Bora digon distaw, mond dal tair Coch dan aden, dwy Fwyalchen, ac iâr Coch y berllan erbyn wyth o’ gloch. Wrth tynnu'r rhwydi ai rhoi yn ôl yn i bagiau, dyma wneud penderfyniad sydyn i osod rhwyd fanach na’r rhwyd dal y bronfreithod, a rhoi awr arall cyn mynd adra i ddechrau gwaith. Wel mond dau aderyn am yr awr, ond gem o aderyn mewn Dryw Fflamben, ai cefnder y Dryw Aurben.



Ceiliog Dryw Fflamben, hefo’r fflam oren tywyll ar dop i ben.


Y Dryw Aurben yn iâr hefo melyn ar dop ei ffen hi.

Beth arall sydd i ddal hydref yma?

Kelvin

Tuesday 13 October 2009

Coch Dan-aden

I’r fodrwy’r arwydd fod y gaeaf ddim yn bell yw cyrraedd y Coch Dan-aden.
Aelod o deulu'r Bronfreithod yw. Maent yn bridio yn Sgandinafia a gwlad y ia. Ar noson glir yn yr hydref meant i glywed yn hedfan dros ein penna yn ystod y nos. Mae yn bleser mawr cael dal y rhain ac yn weddol ddi drafferth. Gosod y rhwydi yn y tywyllwch a rhoi tap o gan yr aderyn i redeg, ac fel mae yn gwawrio mi ddawn i weld pwy sydd yn cannu , a fydd rhai yn cael i dal am i chwilfrydedd. Y bore yma dalais fy wyth cyntaf o’r tymor. Ta fydd y tywydd yn llonydd fel hyn mae rhaid manteisio, pan ddei gwynt a glaw'r gaeaf fydd dim mwy o ddal adar. O’r with, dim ond un oedd yn aderyn eleni. Mae siâp y gynffon a'r smotiau gwyn ar waelod y pluan “ tertial” yn dangos hyn. Mi oedant i gyd yn lliw tywydd da, yn bosib yn arwydd ei bod o wlad y ia. Mae rhai Sgandinafia tipyn goleuach.

Aderyn arall sydd yn dod at dap yn y bore cynnar yw Gïach. Yn ddiweddar rydym wedi dal dros ddwsin o rydiwr bychan yma. Mae rhai miloedd yn gaeafu yma, a gobeithio ni chant i saethu



.
Iawn gwely cynnar, fu rhaid codi yn gynnar eto fory i wneud y mwyaf o’r tywydd yma.