Friday 31 July 2009

Mae popeth wedi tawelu yma erbyn hyn. Dim ond ymweld a safleodd y Dylluan Wen yn y gobaith fe byddant yn deor yr ail waith. Dim lwc eto. Wedi gobeithio mynd allan sawl noswaith i rhwydo y Troellwr mewn ardal yn Sir Gar, ond nid yw'r tywydd wedi bod yn ffafriol iawn, a dweud y gwir yn drychinebus!.

Wedi edrych ar canlyniadau y Titw Glas erbyn hyn, ac nid ydynt yn foddhaol iawn.
Y flwyddyn hon allan o bymtheg blwch (15) gyda wyau, dim ond chwech (6) oedd yn llwyddianus gyda cyfanswm o 32 o gywion.

Yn 2008 'roedd 26 blwch gyda wyau, bu 17 yn lwyddianus gyda cyfanswm o 85 o gywion, ac o fewn un neu ddau nyth dyna fel y bu yn 2006/07.

Wrth gwrs dim ond mewn un ardal fach mae y canlyniadau uchod, ond os ydi hyn yn cael eu adlewyrchu dros Brydain yna mae yn newyddion drwg i'r Titw. 


Monday 20 July 2009

CES Y gors

Bore yma roedd rhaid manteisio ar y tywydd, ac mi oedd lwc hefo ni! Unwaith eto cawsom lawer o gywion teloriaid yr helyg, a daliwyd un oedolyn hefo modrwy ar ei goes oedd wedi ei gosod yn Ffrainc. Yn anffodus bydd cyrff adarydda Ffrainc yn cymryd fan leiaf chwe mis i adael i’r BTO wybod beth yw hanes yr aderyn yma!


Fel yr aeth y bore yn ei flaen dechreuodd cywion telor Cetti ymddangos. Tri erbyn diwedd y bore, a’r rhain yn gywion gweddol ifanc - gobeithio fod 'na lawer mwy i ddŵad. Mae sawl ceiliog Cetti ar y safle ac mae gan un ddwy wraig o leiaf !!!

Edrychwch ar gynffon y telor Cetti yma. Mae gan y rhan fwyaf o adar ddeuddeg pluen yn eu cynffonnau, ond dim ond deg sydd gan y Cetti.




Ynys Seiriol eto

Ymweliad arall i Ynys Seiriol i fodrwyo gwylanod coesddu. Dyma fy hoff wylan, ac yr unig wir wylan fôr sydd gennym. Mae yn aderyn prydferth iawn ac mor ystwyth wrth iddo hedfan ger y clogwyni.





Wrth siarad hefo pennaeth y tîm modrwyo sydd wedi bod yn mynd i’r ynys ers dros ugain mlynedd, dywedodd fod nifer yr adar wedi tyfu pob blwyddyn ers gosod y gwenwyn i ladd llygod mawr ar yr ynys.

Tuesday 14 July 2009

Bwrw Plu

Un o’r pethau pwysicaf sydd yn rhaid i unrhyw fodrwywr ddysgu yn ei hyfforddiant ydi strategaeth bwrw plu'r gwahanol rywogaethau o adar. Hefo dealltwriaeth o’r strategau yma mae modd rhoi oed i’r rhan fwyaf o’r adar man sydd yn cael eu dal. Mae’r mwyafrif o’r adar man yn tyfu'r wisg gyntaf o blu yn y nyth, ac ychydig o wythnosau wedyn yn newid y ‘siwt’ yma am blu corff newydd, gan gadw plu’r adenydd a’r gynffon. Tydi’r ‘plu nyth’ ddim o safon dda iawn, gan fod yr adar yn eu tyfu nhw ar frys er mwyn gadael y nyth. Os bydd prinder bwyd (er enghraifft am fod y tywydd wedi bod yn ddrwg) mae hyn yn dangos fel gwendid yn y plu. Yn 2007 ar ôl y holl lifogydd roedd gan y rhan fwyaf o deloriaid yr hesg linellau mawr o wendid yn eu gynffonnau.




Mae’n rhaid i’r cynffonau a’r adennydd gwan yma eu cario nhw'r holl ffordd i lawr i Affrica lle byddant yn diosg (‘moult’) bob pluen cyn dod yn ôl yn y gwanwyn.

Mae’r titw tomos hefyd yn newid ei siwt. Dim ond plu’r corf y bydd y cywion yn eu newid, ond mae'r oedolion yn cael siwt hollol newydd ar ôl y tymor magu. Mae'r creadur bach yma wedi cael tymor digon called - plu ei ben o wedi diflannu ar ôl cropian i mewn ac allan o dwll y nyth - ac fel gwelwch ei adenydd o wedi gweld gwell dyddiau!

Mewn chwe wythnos bydd wedi newid y plu yn gyfangwbl a bydd ar ei orau - yn barod am y gaeaf o’n blaen.

CES

Yr ydym bellach ar ganol y tymor CES. Mae cywion yn dechrau dangos yn y ddau safle, ond yn y gors mae’r niferoedd mwyaf hefo’r telor yr hesg wedi cael tymor da iawn. Mae cywion telor y gors yn dechrau dangos ac ambell i delor Cetti hefyd.

Yn y prysgwydd hefyd mae'r cywion yn dangos - telor yr ardd, telor penddu, llwydfron.

Y syndod mawr ydi’r niferoedd o fwyalchod sydd wedi eu dal. Sawl ceiliog newydd, ac ambell i dderyn wedi ei ddal droeon dros y blynyddoedd. Lle mae’r rhain wedi bod yn cuddio? Yn y ddau safle mae’n amlwg fod rhew'r gaeaf wedi effeithio ar y dryw gan mai ychydig iawn o’r rhain sydd wedi cael eu dal.

Saturday 11 July 2009

Newyddion calonogol am y Barcud bum yn siarad am wythnos diwetha'. Mae yn dal i gryfhau ac mae yr anaf yn gwella. Wythnos arall efallai a fydd yn barod i ryddhau eto.
Noswaith wlyb a glaw trwm, felly siawns i wneud gwaith ar y cyfrifiadur. 
Dyma'r amser mae siawns i edrych ar y ffigurau modrwyo yn fyw manwl, ac mae cyfanswm y Gwibedog Brith yn galonogol iawn, ac hefyd gwelliant yn y Tingoch.

Yn 2008 modrwyiais 77 o gywion y Gwibedog, ac eleni mae hynny i fyny i 116 gyda 5 blwch ychwanegol yn fwy .

Dim cymaint o gynudd gyda'r Tingoch, un blwch yn fwy ac i fyny o 20 yn 08, 28 y flwyddyn.

Mae rhaid danansoddi ffigurau y Titw eto, ond i lawr fydd y ffigurau hyny mae ofn.

Y flwyddyn nesa' fydd rhaid dal y Gwibedog llawn twf i weld faint ohonynt sydd yn dod yn ol bob blwyddyn.

Sunday 5 July 2009


Dyma ni nol unwaith eto ar ol sawl wythnos weddol brysur. Wedi gorffen modrwyo y cywion oedd yn y blychod erbyn hyn. mae wedi bod yn flwyddyn da i'r Gwibedog Brith a'r Tingoch yma ond nid mor dda i deulu y Titw. Bydd y ffigurau llawn gennym cyn bo hir.

Rwy'i ar hyn o bryd allan tair noswaith yr wythnos yn trapio Gwyfynnod mewn gwahanol lefydd. Mae gen'i 3 man mewn coedwig bythwyrdd, 3 coedwig colldail, 3 ar gorsydd ac un yn yr ardd.

Rwy'i hefyd wedi bod yn modrwyo y Dylluan Wen ac fel Kelvin amrywiaeth sydd wedi bod yn fy nisgwyl. Blychod lle mae cywion bob blwyddyn ers y 90au, dim byd yno ond un o'r oedolion yn clwydo.

Yna cael nyth newydd yng nghogledd Shir Gar, mewn blwch yn ystafell wely y perchnogion. Roedd hynny yn tipyn o antur yn trio ddim brathu yr ystafell wrth modrwyo, ond ddim fel yna roedd y ddau gyw yn eu gweld . Saethu eu gwastraff yn syth dros y carped a'r gwely!!. Rhaid dweud cymerodd wraig y ty hwn heb un problem, roedd mor hapus i gael Tylluanod yno.

Cyfanswm sydd wedi eu modrwyo ar hyn o bryd ydi 14 allan o bedwar nyth, ond dydi ddim yn debyg fydd rhagor yw gwneud.

Yna dau ddiwrnod o'r neilltu i fodrwyo y Barcud yn yr ardal. Ond dim lawer o lwyddiant modrwyo gan fod pob un cyw mewn naw nyth, naill wedi hedfan neu pan oeddwn yno ac yn paratoi yr offer dringo, penderfynnu hedafn yn sedet neis i ffwrdd. Pob nyth y flwyddyn hon yma tua 4 i 6 diwrnod fwy cynnar.

Fe gafwyd un cyw wedi ei niweidio gan Frain yn y nyth, ac fe benderfynwyd dod ag e i lawr gan fod niwed ar ei frest ac o dan yr adain, ac yr oedd ei bwysau yn isel iawn am ei oedran. Fell y adre ag e yw fwydo am ddiwrnod neu ddau ac yna mynd ag e i Gigrin i gryfhau cyn ei adael yn rhydd eto.

Wrth fod allan yn y nos yn trapio rwy'i wedi dod o hyd i 5 Troellwr ac y peth nesa' fydd i fynd allan yw dal a modrwyo. Felly digon i ddod eto.