Newyddion calonogol am y Barcud bum yn siarad am wythnos diwetha'. Mae yn dal i gryfhau ac mae yr anaf yn gwella. Wythnos arall efallai a fydd yn barod i ryddhau eto.
Cyn ymddeol yn 2006, bum yn heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru am fwy na 30 mlynedd. Yn ogystal a'm dyletswyddau arferol, roeddwn yn Swyddog Bywyd Gwyllt am y 15 mlynedd dwythaf. Cafodd fy niddordeb mewn adar ei fagu ar yr aelwyd adref yng Nghaernarfon gan fy nhad, oedd yn cadw adar Prydeinig, ac wrth fynd i saethu a physgota hefyd yn eu tymor. I mi, roedd gweld Bronwen y Dwr yn nythu cystal pob tamaid a dal brithyll. Yn aml iawn, roedd bod allan yn y wlad a gweld byd natur yn ei ogoniant yn bwysicach i mi na chael rywbeth i fynd adref i'w fwyta. Dechreuais ddysgu modrwyo adar ym 1994, ac mae o wedi mynd yn obsesiwn gen i erbyn hyn, meddai'r wraig - sydd yn cwyno nad yw yn gweld ryw lawer arnaf yn ystod y tymor nythu !
Bryan Jones
Magwyd fy niddordeb ym myd natur, ac adar yn enwedig, pan oeddwn i yn blentyn. Arferwn dreulio fy ngwyliau yn crwydro o amgylch y caeau a'r cloddiau, o amgylch y pentref ble'm magwyd, yn chwilio am nythod ac yn y blaen. Mae y diddordeb hwn wedi aros gyda mi - yn enwedig fy niddordeb yn y Barcud Coch a'r Tylluan Wen. Ar ôl ymddeol o'r Frigad Dân, yn ôl ym 1991,bum yn cynorthwyo nifer o'm cyfeillion adaryddol i fodrwyo adar o bob math, cyn penderfynu yn y diwedd i gymwyso fel modrwywr fy hunan.
No comments:
Post a Comment