Tuesday 14 July 2009

Bwrw Plu

Un o’r pethau pwysicaf sydd yn rhaid i unrhyw fodrwywr ddysgu yn ei hyfforddiant ydi strategaeth bwrw plu'r gwahanol rywogaethau o adar. Hefo dealltwriaeth o’r strategau yma mae modd rhoi oed i’r rhan fwyaf o’r adar man sydd yn cael eu dal. Mae’r mwyafrif o’r adar man yn tyfu'r wisg gyntaf o blu yn y nyth, ac ychydig o wythnosau wedyn yn newid y ‘siwt’ yma am blu corff newydd, gan gadw plu’r adenydd a’r gynffon. Tydi’r ‘plu nyth’ ddim o safon dda iawn, gan fod yr adar yn eu tyfu nhw ar frys er mwyn gadael y nyth. Os bydd prinder bwyd (er enghraifft am fod y tywydd wedi bod yn ddrwg) mae hyn yn dangos fel gwendid yn y plu. Yn 2007 ar ôl y holl lifogydd roedd gan y rhan fwyaf o deloriaid yr hesg linellau mawr o wendid yn eu gynffonnau.




Mae’n rhaid i’r cynffonau a’r adennydd gwan yma eu cario nhw'r holl ffordd i lawr i Affrica lle byddant yn diosg (‘moult’) bob pluen cyn dod yn ôl yn y gwanwyn.

Mae’r titw tomos hefyd yn newid ei siwt. Dim ond plu’r corf y bydd y cywion yn eu newid, ond mae'r oedolion yn cael siwt hollol newydd ar ôl y tymor magu. Mae'r creadur bach yma wedi cael tymor digon called - plu ei ben o wedi diflannu ar ôl cropian i mewn ac allan o dwll y nyth - ac fel gwelwch ei adenydd o wedi gweld gwell dyddiau!

Mewn chwe wythnos bydd wedi newid y plu yn gyfangwbl a bydd ar ei orau - yn barod am y gaeaf o’n blaen.

No comments:

Post a Comment