Cael bore diddorol iawn ar y cynta o'r mis. Mae gen i tri blwch yng ngardd yr ysgol lleol, Ysgol Dolafon, Llanwrtid, ac fe weithiodd un blwch allan yn dda, gan fod y plant nol yn yr ysgol ar ol y gwyliau. Felly lawr yno yn y bore ac siarad am dipyn gyda' plant am rhesymau modrwyo a dangos yr offer iddynt cyn mynd i gael y cywion allan o'r blwch. 'Roedd pum cyw Titw Mawr yno, ac roedd yn bleser clywed y tawelwch wrth i mi ddangos fel oedd modrwyo iddynt, hyd at penderfynnodd un o'r cywion roi anreg i mi ar fy llaw!!!. Ond eto oedd hwn yn gyfle i ddangos fel roedd rhieni yn medru cario y baw allan o'r nyth heb sathru'r nyth.
Yna, roedd y cwestiynau'n llifo, ac er fy mod dim ond eisiau bod yno am tua hanner awr aeth dwy awr heibio fel yna.
Wedi bod allan heddiw yn modrwyo teulu o bedwar Dylluan Wen, mewn hen ffermdy yng nghanol yr Epynt, gyda bwledi a bomiau yn taranu dros y lle i gyd. Er bod y fyddin wedi trwsio'r fferm er mwyn i'r milwyr ei ddefnyddio fel lloches mae'r blwch yn weddol uchel, ac mae yn syndod fel mae y Dylluan yn cyfarwyddo gyda'r swn ac yn nythu yno yn reolaidd. Y peth pwysig yw fod yna ddigon o le i hela am eu bwyd.
Dyna ni am 'nawr.
No comments:
Post a Comment